Dydy Poen Mislif Difrifol Ddim Yn Normal
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i nodi pan nad yw poen mislif yn normal, i ddeall effaith poen mislif difrifol, a dysgu am gyflyrau cysylltiedig.
Gall ychydig dros hanner y boblogaeth ddisgwyl cael y mislif yn ystod eu bywydau. Mae llawer o bobl yn dioddef â phoen mislif difrifol a all gael effaith sylweddol ar eu bywyd. Mae’r cwrs yma wedi’i ddylunio i’ch helpu i nodi pan nad yw poen mislif yn normal, deall effaith poen mislif difrifol, a dysgu am gyflyrau cysylltiedig, yn enwedig endometriosis. Gall fod yn anodd gwneud diagnosis o endometriosis gan fod y
symptomau’n aml yn cael eu cam-adnabod fel poen mislif ‘normal’.
Drwy gydol cynnwys y cwrs rydyn ni’n cyfeirio at ferched a menywod ifanc a phobl ifanc i gynnwys pawb sy’n cael mislif neu boen mislif.